Mae'r Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yng Ngwasanaeth Prawf Gogledd Cymru yn rhoi gwybod i'r sawl a ddioddefodd trosedd difrifol os caiff y troseddwr ei ddedfrydu i'r ysbyty dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, i garchar am oes, neu i garchar am 12 mis neu fwy am drosedd rhywiol neu dreisgar. Bydd y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn ysgrifennu at y dioddefwr o fewn 8 wythnos i'r dyddiad y caiff y troseddwr ei ddedfrydu i weld a yw'r troseddwr am gadw mewn cysylltiad. Dyma'r hyn y gall y Swyddogion Cyswllt Dioddefwyr eu cynnig i ddioddefwyr:
- Egluro am y cynllun cyswllt i ddioddefwyr a beth y gellid disgwyl ohono.
- Darparu gwybodaeth am y ddedfryd a beth y mae'n ei olygu'n ymarferol.
- Darparu gwybodaeth am ddatblygiad y troseddwr yn y carchar.
- Trafod unrhyw bryderon am y dyddiad rhyddhau ac egluro sut y gwneir penderfyniadau i ryddhau troseddwyr.
- Bydd adroddiad gan Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn cyfrannu at y cynlluniau i ryddhau ac unrhyw benderfyniadau yn eu cylch. Gallai hyn gynnwys amodau penodol i drwydded y troseddwr.
- Mae'r Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn gweithio gydag eraill mewn cyfarfodydd Amddiffyn y Cyhoedd Aml-Asiantaeth i sicrhau bod dulliau diogelu mewn lle i amddiffyn y dioddefwr.
- Hefyd, gall y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr gyfeirio'r dioddefwr at asiantaethau cwnsela yn ôl y gofyn.
Ar gyfer troseddwyr sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty:
- Bydd y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr yn cynnig cyswllt â'r dioddefwr os yw troseddwr wedi cael gorchymyn ysbyty neu dan amod cyfyngiadau gorchymyn, os yw troseddwr wedi cael cyfarwyddyd ysbyty neu dan amod cyfyngiadau cyfarwyddyd, neu os yw'n cael ei drosglwyddo o garchar i ysbyty dan gyfarwyddyd trosglwyddo neu dan amod cyfyngiadau cyfarwyddyd.
Mae'r Cynllun Cyswllt Dioddefwyr yn gynllun hollol wirfoddol a gall dioddefwyr ddewis a ydynt am fanteisio ar gynnig y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr am gyswllt neu barhau â'r cyswllt ar ôl y tro cyntaf.