Mae'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol dros Gymru a Lloegr yn:
- Asesu'r risg a berir gan droseddwyr ac yn asesu eu hanghenion i ddarparu adroddiadau i'r llys ar y sawl sydd wedi'u cael yn euog o droseddau er mwyn helpu Dedfrydwyr i benderfynu pa ddedfryd i'w rhoi.
- Rheoli troseddwyr yn y gymuned drwy sicrhau eu bod yn cadw at amodau eu Gorchymyn Cymunedol ac yn cyflawni'r gwaith a gynlluniwyd ar eu cyfer yn ystod eu dedfryd.
- Darparu ymyriadau megis rhaglenni i fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol a rhaglenni i helpu pobl sy'n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, neu bobl ag anghenion eraill, er mwyn cynorthwyo defnyddwyr y gwasanaeth i gadw allan o drwbl yn y dyfodol.
- Goruchwylio troseddwyr sy'n gwneud Gwaith Di-dâl er budd y gymuned. Mae hyn yn un ffordd o gosbi troseddwyr ond mae hefyd yn eu helpu i feithrin sgiliau newydd.
- Gweithio gyda'r Carchardai, yn ystod cyfnod y troseddwr dan glo ac ar ôl iddo gael ei ryddhau, a darparu adroddiadau i'r Carchardai i'w helpu i benderfynu a ddylid rhyddhau carcharor i'r gymuned ai peidio.
- Os nad yw troseddwyr yn cydymffurfio ag amodau eu Gorchymyn Cymunedol neu Drwydded, cânt eu galw'n ôl i'r Llys neu i'r Carchar.
- Cyd-drafod â Dioddefwyr troseddau difrifol a sôn wrthynt am ddatblygiad y carcharor yn y Carchar.
- Gweithio gydag Asiantaethau eraill yn y gymuned i reoli risg a chyfrannu at amddiffyn y cyhoedd.