spacer 
 newsSquare_cy
spacer

Sgiliau Newydd ar Droed i Bobl Ifanc

Sgiliau newydd ar droed i bobl ifanc

Mae hyd yn oed chwaraewyr pêl-droed proffesiynol yn cyfaddef bod hyfforddi cyn i’r tymor ddechrau bob amser yn galed, ac ar ôl cyfres o sesiynau dyddiol byddai grŵp o bobl ifanc sir y Fflint yn cytuno. Roedd y 15 o bobl ifanc wedi blino’n lân ond roeddent hefyd yn ymfalchïo yn eu llwyddiant, yn enwedig gan fod hwn yn brofiad newydd i rai ohonynt. Bu’r bechgyn a merched rhwng 10 a 17 oed o bob cwr o’r sir yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi pêl-droed am wythnos ar dir Alex yr Wyddgrug.
                     

Trefnwyd y digwyddiad gan Ymyriadau Cyfiawnder Troseddol Cymru (CJIW) mewn partneriaeth ag Ardal Prawf Gogledd Cymru a Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r sesiynau wedi datblygu’n dwrnamaint rhwng timau o ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru ond y tro hwn dim ond pobl ifanc Sir y Fflint oedd yn cael cymryd rhan. Ni wnaeth hynny amharu ar y mwynhad a gawsant o’r sesiynau pedair awr bob dydd, lle cawsant ddysgu sgiliau, gwneud ymarferion ffitrwydd a chwarae gemau yn erbyn ei gilydd.

Roedd y rhaglen yn cael ei rhedeg gan Xtra Time Soccer, sy’n seiliedig yn Lerpwl, ac mae’r hyfforddwyr eu hunain yn gyn chwaraewyr pêl-droed proffesiynol. Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Alex Gray, swyddog datblygu Ymyriadau er Cyfiawnder Cymunedol Cymru sir y Fflint, ei fod yn falch iawn o’r ffordd yr aeth pethau ac o ymateb ac agwedd y bobl ifanc, a dangosodd rai ohonynt dalent wirioneddol.

Yn eu mysg roedd Robert Ashbrook 16 oed, o Garden City, sydd wedi chwarae i dimau lleol gwahanol yn y gorffennol a bellach yn gobeithio ymuno â chlwb ar gyfer y tymor hwn, “Fe wnes i fwynhau’r sesiynau’n fawr,” meddai. “Pe na bawn i wedi dod yma, fe fyddwn wedi bod yn fy ngwely bob dydd.”

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc yn defnyddio’r cwrs fel rhan o raglen wobr efydd Dug Caeredin.
 Enillodd Kelly Bayliss, 18 oed, o Bentre Helygain, ei gwobr efydd y llynedd ar ôl cystadlu yn y twrnamaint rhyngranbarthol yn Llandudno, ac mae hi bellach yn gweithio tuag at ennill ei gwobr arian. Roedd hi’n un o’r tair o ferched a oedd yn cymryd rhan yn y sesiynau yn yr Wyddgrug, a oedd yn rhoi o’i gorau yn y cystadlaethau pump bob ochr. “Mae wedi bod yn waith caled ond rydw i wedi mwynhau ac fe hoffwn ddod o hyd i dîm o ferched lleol i chwarae iddynt,” dywedodd.

Roedd bws Night Dragon, sy’n cael ei redeg gan Dîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc Sir y Fflint, wedi’i barcio wrth ochr y cae drwy gydol yr wythnos. Gyda’i ddeciau troelli ac offer hi-fi soffistigedig roedd yn atyniad poblogaidd i bobl ifanc ac yn lle i aelodau o’r tîm gynnig cyngor mewn ffordd anffurfiol ar beryglon camddefnyddio cyffuriau.   “Mae popeth wedi mynd yn dda iawn ac rydym wedi cael ymateb da iawn,” dywedodd Zoe Williams, un o weithwyr y tîm.

Cyflwynwyd tlws i bawb a gymerodd ran gan gyn chwaraewr y Rhyl,
Dave Cameron, sy’n chwaraewr ac yn hyfforddwr i dîm Bradford Park Avenue ar hyn o bryd. Wrth iddo wylio’r bobl ifanc yn amlwg yn mwynhau eu hunain mewn ffordd mor iach dywedodd: “Mae’n wych gweld hyn gan fy mod i’n dod o gefndir tebyg iddynt ac fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd yn gwneud rhywbeth fel hyn i’m difyrru.”

Dywedodd Carol Moore, Prif Swyddog Ardal Prawf Gogledd Cymru, “Mae mentrau fel hyn yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc brofi eu sgiliau a’u galluoedd. Maent yn rhoi’r cyfle iddynt symud ymlaen o ran eu dysgu a’u profiadau eu hunain a meddwl am weithio fel tîm a gweithio gyda’i gilydd Nid yn unig hynny, ond gallant hefyd feddwl am faterion yn y dyfodol fel cyfleoedd hyfforddi a phethau felly. Nid chwarae pêl-droed yn unig sy’n bwysig, ond yr holl sgiliau eraill sy’n gysylltiedig â bod yn rhan o dîm.   Mae hon yn fenter adeiladol iawn ac mae’r ymrwymiad a welwn gan y mudiadau a’r bobl sy’n gysylltiedig â hwy yn wych.”


 

spacer
 
Yn ôl i Newyddion
rightRed
spacer
 
Saesneg/English
rightRed
 
spacer
 
 
base