spacer 
 newsSquare_cy
spacer

Buddugoliaeth ardderchog i droseddwyr

Bryan Dunt, Dave Turner a Paul Marshall

Mae tîm o droseddwyr yn teimlo’n ardderchog ar ôl herio prif arddwyr Prydain a chipio gwobr mewn sioe flodau fawreddog. Y tîm o Ogledd Cymru oedd y troseddwyr cyntaf erioed i gael cystadlu yn Sioe Flodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn Tatton ger Knutsford.

Yn rhyfeddol, er nad oedd ganddynt ddim profiad gwirioneddol o arddio, bu i’w hymgais yn y Gystadleuaeth Gwely Blodau Genedlaethol ennill medal efydd - gan guro ymgeisiau Cyngor Dinas Manceinion a hyd yn oed un coleg garddwriaethol. Fe wnaethant roi cynnig ar y gystadleuaeth o ganlyniad i bartneriaeth sy’n cael ei meithrin rhwng Ardal Brawf Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Fel ffordd o ad-dalu eu dyled i gymdeithas, cafodd y troseddwyr eu gorchymyn gan y llysoedd i wneud gwaith di-dâl sydd o fudd i’r gymuned. Yng Nghonwy, buont yn helpu i wneud gwaith llaw mewn parciau lleol ac ym Mhlanhigfa Tanllan yr awdurdod, yn Llanelian - a dyna lle gwnaeth y syniad ddechrau egino.

Mae gan y cyngor record ardderchog yn Tatton. Ac eleni enillodd ymgais yr awdurdod ei hun fedal aur a’r Wobr am y Gorau yn y Sioe.

Pili pala blodeuog oedd ymgais y cyngor, tra bod ymgais y gwasanaeth prawf yn darlunio wal frics yn llawn graffiti - wedi’i gwneud o 7,000 o blanhigion blodau’r haf. Yr athrylith y tu ôl i’r ddwy ymgais oedd Peter Barton-Price, Rheolwr Cynorthwyol y cyngor dros Barciau a Mannau Glas.

Meddai: “Mae ennill gwobr efydd gan yr RHS yn gyflawniad rhyfeddol. Daethant i lawr yma heb ddim profiad garddwriaethol bron ac maent wedi gweithio’n galed iawn. Mae’r Gystadleuaeth Gwely Blodau Genedlaethol yn ddigwyddiad anferthol ac mae’r hyn maent wedi’i wneud yn aruthrol. Rydym yn ystyried bod y bartneriaeth gyda’r cyngor yn gyfle gwych i edrych ar rai o’r tasgau roeddem ni’n methu ag edrych arnynt oherwydd y gweithlu, a hefyd gallwn roi cyfle i bobl sydd ar brawf. Y Gystadleuaeth Gwely Blodau Genedlaethol ym Mharc Tatton o bosib yw’r gystadleuaeth fwyaf ond un a gynhelir gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a’r llall yw Sioe Flodau Chelsea. Felly, aiff hi ddim llawer mwy na hyn. Dyma un o uchafbwyntiau’r calendr garddwriaethol - mae’n bwysig iawn i ni. Bu’n rhaid i ni ddysgu’r tîm troseddwyr sut i blannu’n gyflym, yn effeithiol ac yn eithriadol o effeithlon.

“Tridiau’n unig oedd gennym ac roedd yn rhaid i ni orffen erbyn nos Lun er gwaetha’r blinder gan fod y barnu’n dechrau am 10am fore Mawrth ac roedd y sioe’n agor ar y dydd Mercher. Doeddwn i erioed wedi gwneud dau wely blodau ar y tro. Roedd pethau’n agos iawn y llynedd felly bu eleni’n sialens a hanner. Ym mhob un o’r gwelyau blodau hyn ceir o leiaf 3,500 o blanhigion blodau’r haf.

”Roedd Bryan Dunt sy’n Oruchwyliwr gyda’r Gwasanaeth Cymunedol wrth ei fodd eu bod yn cael mynd i Tatton gyda’i dîm - ac mae’n fwy balch fyth o’r canlyniadau.

Meddai: “Mae’n anodd cyfleu teimlad mor wych ydyw. Mae’n gwbl anghredadwy - rydym ni wedi curo timau o gyngor dinas Manceinion a Chaerliwelydd heb sôn am un coleg garddwriaethol. Nid oedd yr un Gwasanaeth Prawf erioed wedi dangos yn Sioe Tatton o’r blaen ac ni chaniatawyd i drefniant partneriaeth gyda chyngor ddigwydd o’r blaen, felly mae ennill medal efydd ar ddiwedd y dydd yn gwbl wych. Roedd y dyluniad yn seiliedig ar neges wrth-graffiti - wal frics gyda graffiti arni ond wedi’i gwneud o blanhigion blodau’r haf. Bu’n ddwys iawn, ond roedd yn gyfle delfrydol i’r Gwasanaeth Prawf brofi’r hyn y gallwn ei wneud. Mae’n glod mawr i ni. Dywedodd y prif feirniad wrthyf ein bod wedi bod yn ddewr yn dewis graffiti fel thema oherwydd ei fod yn felltith ar gymdeithas ond nad oes ar neb fel arfer eisiau siarad amdano. Dywedodd ei fod yn falch iawn o’r hyn a wnaethom. Dwi’n wirioneddol wedi cael awydd nawr a byddwn yn bendant yn dychwelyd i gystadlu’r flwyddyn nesaf”.

Talodd Bryan deyrnged i ymdrechion ei dîm o ddau a fu’n gweithio mor galed, sef Dave Turner a Paul Marshall. Yn swyddogol mae’r ddau ddyn wedi cwblhau’r oriau y cawsant eu gorchymyn i’w gwneud gan ynadon lleol ond daliodd y ddau ati’n wirfoddol fel y gallent gystadlu yn Tatton.

Meddai Dave 19 o Fae Colwyn: "Dechreuais wneud hyn wrth wneud Gwasanaeth Cymunedol a phan orffennais gofynnodd Bryan i mi ddal ati. Rwy’n falch iawn fy mod wedi oherwydd fy mod wedi cael profiad gwych. Wnes i erioed feddwl y byddem ni’n ennill dim i ddechrau ond ar ôl gorffen roedd yn edrych yn dda iawn ac roedd gen i deimlad bod gennym siawns o ennill rhywbeth. Rwy’n falch dros ben ein bod wedi ennill medal efydd, yn ecstatig.

Meddai Prif Swyddog Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru Carol Moore: “Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Gonwy am roi’r cyfle hwn i ni ac mae’n dangos yn union beth ellir ei gyflawni wrth i asiantaethau weithio gyda’i gilydd.”

 
 
 
 

 

spacer
 
Yn ôl i Newyddion
rightRed
spacer
 
Saesneg/English
rightRed
 
spacer
 
 
base